SL(5)280 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd, planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau. Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ffioedd Iechyd Planhigion (Cymru) 2014 (OS. 2014/792).
Y weithdrefn
Negyddol
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod “Iechyd planhigion, hadau a deunydd lluosogi” yn faes polisi sy’n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Felly, mae’r gyfraith sy’n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE a gaiff ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
20 Tachwedd 2018